Hafan
Mae Geraint Jones a’i Gwmni yn gyfreithwyr sydd â chymhwyster Lexcel.
Mae un swyddfa yn Y Drenewydd a’r llall yn Llandrindod, sef canolfan weinyddol Powys. Gwreiddir y cwmni yn y gymdeithas Wledig ac mae ganddynt brofiad helaeth o roi cyngor ar fusnes, partneriaethau, tir, eiddo, a materion amaethyddol. Maent yn rhoi cyngor at y dyfodol drwy ewyllys a thrafod oblygiadau’r dreth etifeddol.
Mae gan y cwmni gysylltiadau hir a helaeth â Phowys a’r Canolbarth, ond rydym yn gweithredu ym mhob math o achosion gan gynnwys rhai sy’n deillio o ddamweiniau ffordd a niwed yn y gwaith, achosion teuluol a phlant ac mae gennym dîm o gyfreithwyr yn trin achosion troseddol yn ddyddiol yn Llysoedd yr Ynadon a Llysoedd y Goron.
Er ein bod wedi bod yn gwmni â gwreiddiau hanesyddol, rydym yn edrych i’r dyfodol yn hytrach na phwyso ar y gorffennol ac i’r perwyl hwn yr ydym yn manteisio ar dechnoleg diweddar a safonau Lexcel.
Ein nod yw bod yn hyblyg ddeinamig, ac yn gwmni sydd yn hawdd ein cysylltu. Gallwn ymweld â chartrefi drwy drefniant, ac mae gennym gyfleusterau ar gyfer yr anabl, gan gynnwys ystafell ymweld heb risiau a sistem i bobl trwm eu clyw.
Rydym yn defnyddio technoleg gwybodaeth sy'n golygu y gallwn fod yn fwy effeithiol, er enghraifft, drwy ddarparu ewyllys a’i arwyddo ar yr ymweliad cyntaf. Mae gennym gytundeb gyda Chomisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (Legal Services Commission) i weithredu mewn achosion teuluol a throseddau llys.
Rydym yn aelodau o gyfreithwyr dethol sydd wedi ennilll cymhwyster Lexcel. Mae’r cwmni yn cynnwys saith cyfreithiwr. Mae tri ohonynt ar banelau dyletswydd. Mae gan y Pennaeth hawliau llysoedd uwch, ac mae ein gwaith cyson yn golygu mynychu Llysoedd Ynadon o’r Wyddgrug i Gaerdydd, ac o Aberystwyth i’r Trallwng.
Pwysig yn ein golwg ni yw’r gofal a gymerwn wrth gyflogi arbenigwyr cywir boed feddygol, fforensic a chyfrifyddol i gyflwyno tystiolaeth yn y Llys.
Mae Geraint Jones a'i chwmni yn darparu gwasanaethau fel cyfreithwry yng Nghymru a Lloegr, a chaiff y cwmni ei reoleiddio a'i awdurdodi gan Awdurod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
Rhif corfrestru: Swyddfa Drenewydd - 271087. Swyddfa Llandrindod - 271090.
Gellir gweld rheolau'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr drwy'r ddolen ganlynol: www.sra.org.uk/code-of-conduct.page



