Ein pobl
Geraint Elfyn Jones - Pennaeth
Mae Geraint Jones yn Gymro Cymraeg ac ef yw Pennaeth y cwmni. Daeth yn gyfreithiwr yn 1977 ar ôl hyfforddiant gyda dau gwmni yng Nghaerdydd. Symudodd yn 1979 i’r Canolbarth i ddelio â chyfraith sifil a throseddol ac yna symudodd i’r Amwythig yn 1988 i fod yn bartner mewn cwmni yno gan arwain gwaith llys. Mae'n gweithio hyd a lled Cymru a Lloegr mewn achosion, ac ar achlys ar achosion tramor. Bu’n aelod o banel damweiniau (personal injury panel and accident line committee). Mae e’n cadeirio pwyllgor cyfreithwyr ar alwad ac yn aelod o bwyllgor Cymru o gymdeithas y gyfraith. Yn 1994 dychwelodd i’r canolbarth gan uno dau gwmni yn Llandrindod a Drenewydd ac ennill cymhwyster fel eiriolwr â hawliau uwch yn llysoedd y goron. Mae ef hefyd yn ymdrin ag ewyllysiau, stadau a threth.Llyr ap Dafydd – Cyfreithiwr Cynorthywol, Y Drenewydd
Bu Llyr yn astudio at ei radd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg y Gyfraith yng Nghaer. Dechreuodd hyfforddiant gyda Geriant Jones a’i gwmni yn 1996, ac ar ol dod yn gyfreithiwr arhosodd gyda’r cwmni fel pennaeth yr adran deuluol a materion sifil. Mae gan Llyr gymhwyster i fynychu swyddfeydd yr heddlu i rhoi cyngor. Mae'n aelod cyflawn o ‘Resolution’ a chymdeithas cyfraith deuluol Cymru. Mae Llyr yn hapus i ymdrin a’i waith yn ddwyieithog.
Richard Page – Cyfreithiwr Cynorthwyol, Llandrindod
Mae Richard yn cyfreithiwr gynorthwyol yn ymdrin yn bennaf ag achosion teuluol, er bod ganddo brofiad helaeth o faterion troseddol ac materion amrywiol. Daeth Richard yn gyfreithiwr yn 1976, ac am flynyddoedd bu'n gweithio i Lywodraeth leol yng Nghwynedd hyd at 1986, gyda chyngor Powys hyd at 2002. Yn y cyfnod hwnnw, bu'n erlyn dros Safonnau Marchnata a swyddogaethau eraill o’r cyngor leol. Bu'n uwch gyfreithiwr gofal plant rhwng 1996 – 2002 gan gael ei dderbyn i banel plant cymdeithas y gyfraith yn 2001. Bellach mae e’n delio gyda chyfraith deuluol gyhoeddus a phreifat. Mae Richard yn medru yn y Gymraeg. Enillodd radd mewn LLB o brifysgol Cymru Aberystwyth, gradd dosbarth cyntaf yn y celfyddydau, a thystysgirf rheolu a gweinyddu o brifysgol gorllewin Lloegr.Valerie Evans - Llandrindod
Yn wreiddiol o’r Trallwng, mae Val Evans wedi byw yn ardal Llandrindod am dros bymtheg ar hugain o flynyddoedd, ac wedi bod yn aelod weithredol o’r cwmni ers 1994. Hi sy'n ymdrin â throsgwlyddiadau yn ogystal a rheolu’r swyddfa. Mae ganddi cysylltiadau agos ym Mhowys ac mae wedi meithrin rhwydwaith o gysylltiadau a phobl brofesiynnol eraill.Phil Sherrard - Cyfreithiwr Cynorthwyol
Mae Phil Sherrard yn gyfreithiwr cynorthywol ac mae wedi bod gyda’r cwmni ers 2003, mae e'n arbenigo mewn gwaith llys a chynghori yn swyddfeydd yr heddlu. Mae'n aelod cyflawn o’r panel ar alwad. Mae ef yn mynychu swyddfeydd Llandrindod a’r Drenewydd yn ol y galw. Mae ganddo hefyd brofiad o gynghori cyflogwyr a gweithwyr, a gwaith tribiwn-lysoedd. Mae ganddo ddiddordeb mewn materion cyfoes a hawliau dynol.Owain Jones – Cyfreithiwr Cynorthwyol, Llandrindod
Prif ddiddordeb Owain Jones yw gwaith troseddol ac wedi ennill ei gwymhwyster fel cyfreithiwr aeth ymlaen i hyfforddi a chael ei dderbyn fel aelod a’r panel ar alwad. Yn 2005 cafodd brofiad ysgytwar yn ymweld a charcharorion yn Uganda a Kenya. Bu’n cynrthwyo yn ystod ei ymweliad gyda materion hawliau dynol, yn ymwchilio i’r gyfraith mewn nifer o achosion a gyda thim o bobl ifanc yn dadlau dros newidiadau yn y modd roedd y gyfraith yn cael ei gweithredu. Gwnaeth hyn argraff ar Owain a chadarnhau ei awydd i fod yn gyfreithiwr er mwyn helpu’r anghenys. Cafodd radd mewn gyfraith a gwleidyddiaeth ym mhrif ysgol Aberystwyth cyn mynd i goleg y gyfraith yng Nghaer. Ei nod yn y pen draw yw ennill hawliau uwch yn Eiriolaeth.Sarah Robinson - Cyfreithiwr Cynorthwyol, Y Drenewydd
Treuliodd Sarah Robinson bedair blynedd gyda’r cwmni fel ysgrifenyddes gyfreithiol tra’n astudio i ennill cymhwyster cyfreithiol. Roedd eisoes wedi astudio’r gyfraith ym mhrifysgol Aberystwyth ar ol symud i Gymru yn 1994. Ei nod yw cwblhau gradd meistr mewn astudiaethau amgylcheddol. Mae hi’n hoffi seiclo ac wedi codi arian at ‘Cancer Research’ trwy cysytadlu mewn rasus deg cilomedr. Mae'n ymdrin a materion sy'n ymwneud a thir ac eiddo.Cassie Jenkins - Cyfreithiwr Cynorthwyol, Llandrindod
Astudiodd Cassie Jenkins ym Mhrifysgol Caerdydd gan dderbyn anrhydedd yn y gyfraith a chymdeithaseg, a derbyniodd gymeradwyaeth ym Mhrifysgol Abersytwyth wrth astudio cwrs ymarferol y gyfraith. Dechreudodd ei hyfforddiant gyda Geraint Jones a'i gwmni ym mis Mawrth 2009, ac mae bellach yn gyfraithwraig. Mae ganddi brofiad o weithio gyda stadau ac ewyllysiau, prynu a gwerthu tir a thai, ac mae wedi derbyn tystysgrif i gynghori yn swyddfeydd yr heddlu, a disgwyliwn ei derbyn fel aelod cyflawn o’r panel. Mae Cassie wedi byw yng Nghymru trwy gydol eu hoes ac yn siarad Cymraeg yn rhugl.Lorraine Hill - Y Drenewydd
Mae Lorraine wedi gweithio yn y gyfraith ers 1980 ac am gyfnod buodd yn ysgrifenyddes i’r Pennaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf cydnabyddwyd ei phrofiad a’i sgiliau ac mae bellach yn ymgymryd a phob agwedd o drosglwyddo (prynnu a gwerthu tai a thir) o dan orchwyliaeth y Pennaeth.Cymorth Cyfreithiol
Mae Geraint Jones a’i gwmni yn awyddus i barhau i gynorthwyo pobl sydd angen cymorth cyfreithiol mewn gwaith troseddol, a theuluol. Mae gennym statws arbennigol sydd yn golygu bod gennym hawl i gynghori ar rychwant helaeth o faterion eraill.

